DATGANIAD I’R WASG BAND Y CORY
CORY BAND PRESS RELEASE

(Welsh followed by English)
PENWYTHNOS ARWEINYDDION BAND Y CORY
Bydd Band y Cory, gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd ac arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cynnig digwyddiad unigryw o dan arweiniad Philip Harper a Nigel Seaman, i weithio ag arweinyddion newydd ac arweinyddion profiadol sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau yn bellach ac ennill mwy o brofiad.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Ddydd Sadwrn 21ain o Awst a Dydd Sul 22ain o Awst yng nghartref Band y Cory yn Nhon Pentre, Rhondda, Cymru. Bydd cyfle i gael hyfforddiant yn ogystal â dosbarth meistr a chyfle i ennill profiad ymarferol. Yn ogystal â derbyn cyngor ac arweiniad gan Philip a Nigel, bydd y cyfranogwyr hefyd yn cael y cyfle i arwain grŵp o chwaraewyr Band y Cory yn ystod y dydd.
Diwrnod 1, Dydd Sadwrn 21ain o Awst 10yb – 4yp, bydd y diwrnod hwn yn addas ar gyfer arweinyddion newydd; rheini sydd heb afael mewn baton o’r blaen; neu’r rheini sydd yn cychwyn ar eu taith o fod yn arweinyddion.
Diwrnod 2, Dydd Sul 22ain o Awst 10yb – 4:30yp, bydd y diwrnod hwn yn addas ar gyfer arweinyddion sydd â mwy o brofiad; rheini sydd wedi arwain grwpiau yn y gorffennol neu sydd ar eisoes yn gweithio gyda band ac am gael mwy o gyngor i gefnogi eu datblygiad.
Bydd y sesiynau diwrnod yn cael eu cynnig AM DDIM i nifer cyfyngedig o bobl. Bydd y sesiynau ar gael i unigolion sy’n byw yng Nghymru neu sydd â diddordeb mewn gweithio â sefydliad cerddorol Cymraeg.
Dywedodd yr Arweinydd Cerddorol Philip Harper: “Rydym wrth ein bodd i allu cynnig y sesiynau yma i helpu arweinyddion datblygu eu sgiliau, ac mae gen i a Nigel gyfoeth o brofiad a chyngor i’w rhannu. Bydd hi’n hynod gyffrous i gael aelodau o Fand y Cory gyda ni i weithio gyda’r arweinyddion ac rydym yn edrych ymlaen at groesawi’r cyfranogwyr i fod yn westai am y diwrnod yn ein hystafell ymarfer arbennig newydd.”
Mae gofyn i’r rheini sydd â diddordeb, gwblhau’r holiadur byr yma drwy glicio ar y linc https://forms.gle/rBsZALgPY9fJKoT18 erbyn y dyddiad cau ar Ddydd Gwener 23ain o Orffennaf 2021. Mae’n debyg bydd y diwrnodau yma yn boblogaidd iawn, ac felly bydd yr ymgeiswyr yn cael eu dewis i gymryd rhan ar sail eu cais.
Bydd canllawiau Covid-19 wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru yn cael eu dilyn gan mai digwyddiadau corfforol ydynt.
Cyfeiriad y Digwyddiad: Ysgoldy Hebron, Church Street, Rhondda Cynon Taf, CF41 7AD
Am unrhyw ymholiadau penodol, cysylltwch â Band y Cory ar web@coryband.com
CEISIADAU I GAEL EU DERBYN ERBYN DYDD GWENER 23ain O ORFFENNAF 2021. BYDD UNIGOLION YN DERBYN CADARNHAD EU BOD NHW WEDI CAEL EU DEWIS I FYNYCHU ERBYN DYDD GWENER 30ain O ORFFENNAF 2021.
CORY BAND CONDUCTORS WEEKEND
Cory Band, with the support of Ty Cerdd and Arts Council of Wales funding, will offer a unique conductors event with Philip Harper and Nigel Seaman working with first time conductors or conductors looking to take their skills and experience to the next level.
Two separate days of tuition, masterclass and practical experience will take place on Saturday 21st August and Sunday 22nd August, at the home of the Cory Band in Ton Pentre, Rhondda, Wales. In addition to receiving advice and guidance from Philip and Nigel, participants will also get the opportunity to a conduct a group of Cory players during the day.
Day 1, Saturday 21st August 10am-4pm, will be suitable for first time or beginner conductors; those that have either never picked up a baton before, or are just beginning on their conducting journey.
Day 2, Sunday 22nd August 10am-4.30pm, will be suitable for more advanced conductors; those that have conducted groups in the past or are currently working with a band but would like advice and tips to support their development.
The day sessions will be offered FREE of charge for limited numbers of people, and available to individuals residing in Wales or looking to work with a Welsh musical organisation.
Musical Director Philip Harper commented: “We are delighted to be able to offer these sessions to help conductors develop their skills, and Nigel and I have a wealth of experience and tips to pass on. It will be a thrill to have members of the Cory Band there to work with and we’re really looking forward to welcoming the participants to be guests for the day at our wonderful new bandroom.”
Interested parties are asked to complete a short application by clicking on https://forms.gle/rBsZALgPY9fJKoT18 before the closing date of Friday 23rd July 2021. It is anticipated that these days will be oversubscribed, and applicants will be selected for participation based on their applications.
As these will be physical events they will be operated within Covid-19 guidelines set by the Welsh Government.
Event Address: Ysgoldy Hebron, Church Street, Rhondda Cynon Taf, CF41 7AD
For any specific questions, please contact Cory Band at web@coryband.com
APPLICATIONS TO BE RECEIVED BY FRIDAY 23rd JULY 2021. INDIVIDUALS WILL BE ADVISED IF THEY HAVE BEEN CHOSEN TO ATTEND BY FRIDAY 30TH JULY 2021.
Share this post